Project Officer – Liveable Cities and Towns

Sustrans

vacanciesin.eu

Project Officer – Liveable Cities and Towns

  • South Wales
  • £28,211 per annum (pro rata for part time hours)
  • Ref: SUS4034
  • Full Time 37.5 hours per week – happy to talk flexible working
  • Base: Home based, to predominantly cover the Barry area but also support the LCT
    (Liveable Cities and Towns) Officer in Swansea.

About the role

This is an exciting opportunity to join Sustrans as a Project Officer working as part of the
Happier Lives Team. You will be responsible for the delivery of the E-Move Pilot
in Barry and support its delivery in Swansea.

As the Project Officer you will build a network of connections with key individuals in the
community and identify further opportunities to make places more liveable: sociable places with
clean air and green spaces, where friends and facilities are a short walk away, we have a sense
of belonging and it’s easy and pleasant to travel beyond our neighborhood.

Contributing to the Happier Lives team of Sustrans Cymru and the Central Support team, you will
help to seek funding from a range of additional sources.

Duties of the role include overseeing and managing the use and maintenance of resources,
organising training, and supporting increased skills and confidence in the community to walk
and cycle, working with community partners to bring people together, developing initiatives
around walking and cycling, and promoting the e-bike/e-cargo bike use.

This role will require travel and work at locations as necessary to undertake projects on
behalf of Sustrans.

About you

You should have experience of engaging, leading, motivating community groups and organising and
delivering events that lead to positive behaviour change.

With the ability to build relationships with ease across a wide range of people, bring together
a range of contrasting views.

We ask you to demonstrate your knowledge of Microsoft office, using various software’s to
produce reports and maintain records. And a knowledge of cycling, plus environmental and
sustainable transport issues, and solutions.

Sustrans has a long-term commitment to being a charity for everyone – reducing inequality,
valuing diversity, enabling inclusion and ensuring all people are treated with dignity and
respect. We aim to be a truly inclusive employer and welcome applications from people from all
parts of the community, in particular from under-represented groups.

What we offer

In return we can offer true hybrid working to suit individual circumstances and a flexible,
supportive and rewarding working environment.

Wellbeing

  • 28 days’ leave per annum plus bank holidays for full-time working
  • Ability to buy an extra week of annual leave (pro-rata for part-time staff)
  • Staff volunteer days
  • 24/7 free, impartial and confidential support service
  • We are members of the Green Commute Initiative and Cycle Scheme who both offer cycle to work
    schemes

Financial

  • Group Personal Pension scheme with a 5% or 6% of basic salary contribution being matched by
    Sustrans
  • Bike, computer, and season ticket loans
  • Discount benefits
  • London Weighting Allowance of £4,195 for all those living within a London Borough (32 local
    authority districts plus the City of London)
  • Death in Service benefit – 3 x annual Salary

Family Friendly

  • Enhanced maternity and paternity pay
  • Flexible Working practices (full time hours are 37.5 per week, Monday – Friday)

Additional information

Closing date for the receipt of completed applications is 23:59, 04 June 2023

Interviews will take place via MS Teams on the 15 and 16 June 2023

To apply, please complete our online application form. More details of our vacancies can be
found on our website.

About Sustrans

At Sustrans you’ll be part of a movement to make it easier for people to walk and cycle.

We’re all here to change things! You’ll be part of an incredible community of talented,
passionate, creative, problem solvers all working together to change things for the better. We
act locally and think big – we have a vision of a society where the way we travel creates
healthier places and happier lives for everyone.

You’ll be questioning the status quo and daring to imagine a different world. You’ll work on
exciting, impactful projects that will stretch and empower you and you’ll be rewarded by seeing
the difference you make to people, communities, and the planet.

We believe including everyone is central to who we are and what we want to achieve, we welcome
difference and pride ourselves on creating a culture where you can be yourself and where your
wellness is supported.

You’ll be guaranteed to make friends for life and work with a team that is incredibly flexible,
supportive, ethical and fun.


Swyddog Prosiect – Dinasoedd a Threfi Byw

  • De Cymru
  • £28,211 y flwyddyn (pro rata ar gyfer oriau rhan amser)
  • Cyf: SUS4034
  • Llawn-amser 37.5 awr yr wythnos – bodlon trafod gweithio’n hyblyg
  • Lleoliad: Wedi’i leoli gartref, i weithio yn ardal y Barri’n bennaf ond hefyd i
    gefnogi’r Swyddog LCT (Dinasoedd a Threfi Byw) yn Abertawe.

Ynglŷn â’r swydd

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Sustrans fel Swyddog Prosiect yn gweithio fel rhan o’r Tîm
Bywydau Hapusach. Chi fydd yn gyfrifol am gyflawni’r Peilot E-Symud yn
y Barri a chefnogi ei ddarpariaeth yn Abertawe.

Fel swyddog Prosiect, byddwch yn datblygu rhwydwaith o gysylltiadau gydag unigolion allweddol
yn y gymuned ac yn canfod cyfleoedd pellach i wneud lleoedd yn fwy braf i fyw ynddynt: lleoedd
cymdeithasol gydag awyr lân a mannau gwyrdd, ble mae ffrindiau a chyfleusterau o fewn pellter
cerdded byr, ble mae gennym deimlad o berthyn ac mae teithio y tu hwnt i’n cymdogaeth yn hawdd
ac yn ddymunol.

Byddwch yn cyfrannu at dîm Bywydau Hapusach Sustrans Cymru a’r tîm Cymorth Canolog, yn helpu i
chwilio am gyllid gan amrywiaeth o ffynonellau ychwanegol.

Mae dyletswyddau’r rôl yn cynnwys goruchwylio a rheoli defnyddio a chynnal a chadw adnoddau,
trefnu hyfforddiant, a chefnogi magu sgiliau a hyder i gerdded a beicio ymhlith y gymuned, gan
weithio gyda phartneriaid yn y gymuned i dynnu pobl ynghyd, datblygu mentrau cerdded a beicio,
a hyrwyddo defnyddio e-feiciau/e-feiciau cargo

Bydd y rôl hon yn galw am deithio a gweithio mewn lleoliadau yn ôl y galw i ymgymryd â
phrosiectau ar ran Sustrans.

Amdanoch chi

Dylech feddu ar brofiad o ymgysylltu, arwain, ysgogi grwpiau cymunedol a threfnu a chynnal
digwyddiadau sy’n arwain at newid ymddygiad cadarnhaol.

Gyda’r gallu i feithrin perthynas yn rhwydd gydag amrywiaeth eang o bobl, a thynnu ynghyd
amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol.

Gofynnwn ichi ddangos eich dealltwriaeth o Microsoft Office, gan ddefnyddio amrywiaeth o
feddalwedd i lunio adroddiadau a chadw cofnodion. A dealltwriaeth o feicio, ynghyd â materion
ac atebion sy’n ymwneud â’r amgylchedd a thrafnidiaeth gynaliadwy

Mae gan Sustrans ymrwymiad hirdymor i fod yn elusen i bawb – gan leihau anghydraddoldeb,
gwerthfawrogi amrywiaeth, galluogi cynhwysiant a sicrhau bod pawb yn cael eu trin gydag urddas
a pharch. Ein nod yw bod yn gyflogwr gwirioneddol gynhwysol a chroesawn geisiadau gan bobl o
bob rhan o’r gymuned, yn arbennig o blith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Yr hyn rydym yn ei gynnig

Yn gyfnewid, gallwn gynnig gweithio hybrid gwirioneddol i weddu i amodau unigolion, ac
amgylchedd gwaith gwirioneddol hyblyg, cefnogol a gwobrwyol.

Llesiant

  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc ar gyfer gweithwyr llawn-amser
  • Gallu prynu wythnos ychwanegol o wyliau blynyddol (pro-rata i staff rhan-amser)
  • Diwrnodau gwirfoddoli staff
  • Gwasanaeth cefnogaeth ddiduedd a chyfrinachol am ddim 24/7
  • Rydym yn aelodau o’r fenter Cymudo Gwyrdd a’r Cynllun Beicio, sydd ill dau yn cynnig
    cynlluniau beicio i’r gwaith

Ariannol

  • Cynllun Pensiwn Personol Grŵp gyda chyfraniad cyfatebol o 5% neu 6% o’r gyflog sylfaenol yn
    cael ei wneud gan Sustrans
  • Benthyciadau beic, cyfrifiadur a thocynnau tymor
  • Buddion ar ffurf disgowntiau
  • Lwfans Pwysoli Llundain o £4,195 i’r rhai hynny sy’n byw o fewn un o Fwrdeistrefi Llundain
    (32 o ardaloedd awdurdod lleol a Dinas Llundain)
  • Budd-dal Marwolaeth yn ystod Gwasanaeth – 3 x y cyflog blynyddol

Cyfeillgar i Deuluoedd

  • Tâl mamolaeth a thadolaeth uwch na’r isafswm
  • Arferion gweithio hyblyg (oriau llawn-amser yw 37.5 yr wythnos, Llun i Gwener)

Gwybodaeth ychwanegol

  • Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi eu cwblhau yw 23:59, 04 Mehefin 2023.
  • Cynhelir cyfweliadau ar MS Teams ar 15 ac 16 Mehefin 2023

Er mwyn ymgeisio, cwblhewch ein ffurflen gais ar-lein. Am fwy o wybodaeth am ein swyddi, ewch
i www.sustrans.org.uk/about-us/vacancies.

Ynglŷn â Sustrans

Yn Sustrans, byddwch yn rhan o fudiad sy’n ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio.

Rydym ni oll yma i newid pethau! Cewch fod yn rhan o gymuned anhygoel o bobl dalentog,
angerddol, creadigol sy’n datrys problemau ac sydd oll yn gweithio gyda’i gilydd i newid pethau
er gwell. Rydyn ni’n gweithredu’n lleol ac yn meddwl ar raddfa fawr – ein gweledigaeth yw
cymdeithas lle mae’r ffordd rydym yn teithio’n creu lleoedd iachach a bywydau hapusach i bawb

Byddwch yn cwestiynu’r status quo ac yn meiddio dychmygu byd gwahanol. Byddwch yn gweithio ar
brosiectau cyffrous ac effeithiol a fydd yn eich ymestyn ac yn eich grymuso a byddwch yn cael
eich gwobrwyo drwy weld y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud i bobl, cymunedau a’r blaned.

Credwn fod cynnwys pawb yn ganolog i bwy’r ydym ni a’r hyn yr ydym ni am ei gyflawni, croesawn
wahaniaeth ac rydym yn falch o’r ffaith ein bod yn creu diwylliant ble gallwch fod yn chi’ch
hunan, lle caiff eich llesiant ei gefnogi.

Gallwch fod yn sicr o wneud ffrindiau oes a gweithio gyda thîm sy’n andros o hyblyg, cefnogol,
moesegol a llawn hwyl.

Find out more & apply

To help us track our recruitment effort, please indicate in your email/cover letter where (vacanciesin.eu) you saw this job posting.

Job Location